Bywyd gwyllt Patagonia a Chymru
Mae gan Batagonia a Chymru amrywiaeth cyfoethog o adar ac anifeiliaid. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n meddwl am Batagonia, byddwn ni’n meddwl am y gwanaco a’r ceffylau gwyllt.
Pan fyddwn ni’n meddwl am Gymru, byddwn ni’n meddwl am y barcut coch a merlod gwyllt y mynydd.
Yn yr adran hon, byddwch yn dod i wybod mwy am rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n byw ym Mhatagonia ac yng Nghymru heddiw. Dyma glip o'r gwanacos:





