Mae Cymru a'r Wladfa yn debyg iawn, am fod y ddau le yn cynnal Eisteddfodau!

Yng Nghymru, mae nifer o eisteddfodau bach a dwy brif eisteddfod yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae plant ac oedolion o bob oedran yn cystadlu mewn gwahanol gystadlaethau. Rhai o'r cystadlaethau hynny yw canu, llefaru, chwarae offerynnau, dawnsio, ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith a chystadlu mewn corau.

Dwy brif eisteddfod Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r eisteddfodau yn cael eu cynnal am wythnos ac mae'r lleoliad yn newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae maes yr eisteddfodau hyn yn llawn bwrlwm, gyda stondinau a siopau bach yn llenwi'r lle. Dyma fideo o bobl yn mwynhau ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2014:

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop ac mae'n cael ei chynnal bob blwyddyn ar ddiwedd mis Mai. Mae'r Urdd yn fudiad ar gyfer pobl ifanc Cymru ac mae'n cynnig gweithgareddau o bob math. Mae ieuenctid Cymru yn hoff iawn o wersylla yn Llangrannog a Glan-llyn.